Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Medi 2021
Amser:
09.30 -
10.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12436
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS John Griffiths AS |
Tystion: |
Douglas Bain, Comisiynydd Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Andrew RT Davies.
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
2.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor ailddrafft o'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y weithdrefn ymhellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
3 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
3.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)